The following is an extract from the publication ‘Taith Capeli – a walk around Cardigan’s chapels, past and present’.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn dathlu ‘Taith Capeli – cerdded o amgylch capeli Aberteifi, ddoe a heddiw’. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ddydd Sadwrn 9 Hydref 2010. Ym mhob capel buom yn canu emyn; a buom hefyd yn canu yn safleoedd y capeli sydd bellach wedi’u colli, eu dymchwel neu eu trawsnewid. Pen y daith gerdded oedd neuadd y dref. Bu’r cantorion a’r cerddwyr yn rhannu te a chacennau, a’r hanesydd lleol Glen Johnson yn siarad am hanes capeli Aberteifi, gan grybwyll llawer o enghreifftiau.
This publication commemorates ‘Taith Capeli – a walk around Cardigan’s chapels, past and present’. This event took place on Saturday the 9th of October, 2010. In each chapel we sang a hymn; and we also sang at the sites of chapels now lost, demolished or converted. We finished the walk at the Guildhall. Singers and walkers shared tea and cake, and local historian Glen Johnson gave an illustrated talk on the history of Cardigan’s chapels.
‘Taith Capeli’ oedd diweddglo prosiect Capeli Dyffryn Teifi: gwrando yn y capel. Roedd y prosiect yn rhan o ddathlu 900 mlynedd o hanes tref Aberteifi. Bu’r grŵp celfyddydau lleol, GWRANDO, yn creu cyfres o ddigwyddiadau ar hyd dyffryn Teifi, gan recordio cyfweliadau ag aelodau, ysgrifenyddion a gweinidogion capeli. Mae’r cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar y deunyddiau a gasglwyd gan y prosiect: atgofion personol a chymunedol o gapeli a bywyd y capel, ffotograffau a dogfennau.
‘Taith Capeli’ was the final event of the project Capeli Dyffryn Teifi: listening in the chapel. The project was part of Cardigan town’s celebration of 900 years of history. Local arts group GWRANDO created a series of events along the Teifi valley, recording interviews with chapel members, secretaries and ministers. This publication is based on the materials gathered by the project: personal and community memories of chapels and chapel life, photographs and documents.
Hoffai Lou Laurens a Jacob Whittaker ddiolch i bawb a fu’n cymryd rhan ym mhrosiect Capeli Dyffryn Teifi, drwy ganu yn y côr, gwneud cacennau i de’r prynhawn, dod i gerdded ‘Taith Capeli’ neu ymweld â’r arddangosfa ym mis Hydref yn neuadd y dref. Hoffem ddiolch yn arbennig i’r rheini a wnaeth y prosiect yn bosibl, y rheini a agorodd ddrysau a hanesion y capeli i ni, gan roi cyflwyniadau a recordiadau craff, diddorol a gwybodus iawn i ni ac i gynulleidfaoedd/ymwelwyr y digwyddiadau. Diolch o galon hefyd i Aberteifi 2010, Menter Aberteifi, ac Amgueddfa Ceredigion; i Glen Johnson am ddelweddau ac ymchwil; ac i Cerys Jones am gyfieithu.
Lou Laurens and Jacob Whittaker would like to thank everyone who participated in the project Capeli Dyffryn Teifi, by singing in the choir, making cakes for the afternoon teas, coming on the walk ‘Taith Capeli’, or visiting the exhibition in October in the Guildhall. In particular, we would like to thank those who made the project possible, those who opened the doors and the histories of the chapels for us, providing us and the audiences/visitors to the events with insightful, well-researched and engaging presentations and recordings. Grateful thanks also to Aberteifi 2010, Menter Aberteifi, and Ceredigion Museum; to Glen Johnson for images and research; and to Cerys Jones for translation.
![]() |
![]() |