2011 – Capeli: 2005-2010

 Capeli_8thJunA4_E  CMpostersml  Capeli_12thJun_E

Capeli 2005 – 2010, at Ceredigion Museum, showed work from GWRANDO’s five-year project Capeli. The exhibition ran alongside the Museum’s ‘Preachers and Pulpits’ exhibition, from 26th March until the 18th of June 2011.

There was a gallery talk/performance on the 1st of April at 1.30, offering an insight into the collaboration and the themes and aims of the project. There was also a choral performance at Ceredigion Museum on the 8th of June, and an associated site-specific installation/performance at Capel-y-Graig, Furnace, on the 12th of June.

Roedd Capeli 2005 – 2010, yn Amgueddfa Ceredigion, yn dangos gwaith o brosiect pum mlynedd GWRANDO, sef Capeli. Cynhelir yr arddangosfa ochr yn ochr ag arddangosfa ‘Pregethwyr a Phulpudau’ yr Amgueddfa, rhwng 26 Mawrth a 18 Mehefin 2011.

Roedd perfformiad/darlith yn yr oriel ar 1 Ebrill am 1.30 yn cynnig golwg cyffredinol ar y cydweithio a themâu a nodau’r prosiect. Roedd perfformiad corawl yn yr Arddangosfa ar 8 Mehefin ac hefyd gosodiad/perfformiad safle-benodol cysylltiedig yng Nghapel-y-graig, y Ffwrnais, ar y 12fed Mehefin.

The project brings together music and fine art, and the exhibition includes film, photography, and text; and will display ephemera from GWRANDO’s community events, performances, installations, interventions, and interviews. Also showing will be previously unseen work, including a multi-screen installation showing films of 21 chapels located in the Teifi valley. There are two performances associated with the exhibition, presenting some of the experimental choral music performed at previous Capeli events, and one work developed especially for this exhibition.

Mae’r prosiect yn cyfuno cerddoriaeth a chelfyddyd gain, ac mae’r arddangosfa’n cynnwys ffilm, ffotograffiaeth, a thestun: bydd yn arddangos effemera o ddigwyddiadau cymunedol, perfformiadau, gosodiadau, ymyriadau a chyfweliadau GWRANDO. Bydd gwaith cwbl newydd yn cael ei arddangos hefyd, gan gynnwys gosodiad aml-sgrin sy’n dangos ffilmiau o 21 o gapeli yn nyffryn Teifi. Mae dau berfformiad yn gysylltiedig â’r arddangosfa, yn cyflwyno rhywfaint o’r gerddoriaeth gorawl arbrofol a berfformiwyd mewn digwyddiadau Capeli blaenorol, ac un gwaith a ddatblygwyd yn arbennig i’r arddangosfa hon.

GWRANDO’s work has been described as ‘exciting’, ‘innovative’, and ‘very moving’ – with an approach that opens up ‘new dialogues between art, public performance/participation and community’. GWRANDO’s explorations of chapels and chapel culture are personal and critical evocations of encounters and meetings between people and places. Through the project, GWRANDO discovered tensions between Christian beliefs and the desire for familiarity and continuity; the problems of preservation strategies that privilege architectural authenticity over continuing use and function; and the importance of sound: the word, and the song, in the chapel tradition.

Ymhlith y geiriau sydd wedi’u defnyddio i ddisgrifio gwaith GWRANDO mae ‘cyffrous’, ‘arloesol’ a ‘teimladwy iawn’ – a dywedwyd ei fod yn agor ‘deialogau newydd rhwng celfyddyd, perfformiad/cyfranogiad cyhoeddus a chymuned’. Mae archwiliadau GWRANDO o gapeli a diwylliant y capel yn deffro barn ac atgofion personol am ddigwyddiadau a chyfarfodydd rhwng pobl a lleoedd. Drwy’r prosiect, darganfu GWRANDO densiynau rhwng credoau Cristnogol a’r dyhead am y cyfarwydd a pharhad; problemau strategaethau diogelu sy’n breintio dilysrwydd pensaernïol dros ddefnydd a swyddogaeth barhaus; a phwysigrwydd sain: y gair, a’r gân, yn nhraddodiad y capel.

Leave a comment